Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
3 Ebrill 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5574
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.08
Gofynnwyd y 4 cwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 15.22
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad at ofal cleifion mewnol CAMHS i blant a phobl ifanc risg uchel yng Nghymru?
Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch dyfodol gwaith Trostre yn Llanelli?
Dechreuodd yr eitem am 15.53
Gwnaeth Mick Antoniw ddatganiad am - cydnabod gweithredoedd arwrol y Cymro, Capten Archibald Dickson bedwar ugain mlynedd yn ôl (ar 28 Mawrth 1939) a arbedodd dros 2,600 o bobl Sbaenaidd yn y golygfeydd anhrefnus ar ddiwedd rhyfel cartref Sbaen. (Bydd y Llywydd yn ymwybodol o waith parhaus gyda'r Comisiwn i sefydlu plac i gofio amdano).
Gwnaeth Mohammad Asghar ddatganiad am - ymosodiadau mosg Christchurch a diogelwch cymunedol yng Nghymru.
Gwnaeth Helen Mary Jones ddatganiad am - Tîm y DU yn cael ei ddewis ar gyfer WorldSkills 2019 in Kazan (Mae dros 30 o bobl Ifanc medrus gorau a mwyaf disglair y wlad wedi cael eu dewis i gynrychioli’r DU yn WorldSkills Kazan yn ddiweddarach eleni).
NDM7033 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 3 Ebrill 2019.
Dechreuodd yr eitem am 15.59
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7032 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-19 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 1 Ebrill 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9
2. Yn cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
1 |
1 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.13
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7021 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnig i gael bil i ddiwygio a gwella cefnogaeth ar gyfer plant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) cyflwyno'r Model Barnahus o gymorth i gleifion gyda phwyslais therapiwtig;
b) gweithio gyda'r heddlu i ddefnyddio'r Model Barnahus o gynnal ymchwiliad i bob achos o gam-drin plant yn rhywiol; ac
c) yn cyflwyno newidiadau statudol i wella llety brys a llety dros dro i blant sydd wedi'u cam-drin, sy'n methu â dychwelyd i'w cartref neu sy'n ddigartref.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
18 |
2 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.36
NDM7030 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid, Rhoi datganoli cyllidol ar waith yng Nghymru (2019), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.17
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7028 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Cyd Adolygiad Thematig Arolygiaeth Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol.
2. Yn nodi ymhellach y nifer gynyddol o atgyfeiriadau i'r timau iechyd meddwl cymunedol ledled Cymru.
3. Yn gresynu at y diffyg cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd corfforol a gwasanaethau iechyd meddwl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r cymorth a ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol, a mynediad ato, gan gynnwys:
a) cynyddu gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at ddiwedd tymor y Cynulliad;
b) sicrhau bod timau argyfwng ar gael 24/7 ym mhob adran achosion brys mawr;
c) gweithio ar frys gyda byrddau iechyd i wella cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth a staff; a
d) codi ymwybyddiaeth ynghylch mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod yr angen i sicrhau cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd y corff a gwasanaethau iechyd meddwl;
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella’r cymorth a ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol a gwella’r mynediad at y cymorth hwnnw, gan gynnwys:
a) parhau i gynyddu’r gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at ddiwedd tymor y Cynulliad, yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad o wariant yn 2019;
b) sicrhau bod trefniadau ar waith i ymateb i argyfyngau iechyd meddwl bob awr o bob dydd ym mhob un o’r adrannau achosion brys mawr;
c) gweithio ar frys gyda’r byrddau iechyd i wella cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth a staff; a
d) codi ymwybyddiaeth ynghylch mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
7 |
15 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 4, ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
cyhoeddi data perfformiad ystyrlon ar amseroedd aros, gan gynnwys grwpiau oedran a diagnosis, fel y gall hawliadau'n ymwneud â gwella gael eu gwirio'n annibynnol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
28 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 4, ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
sicrhau bod timau iechyd meddwl cymunedol yn cysylltu â gwasanaethau hawliau lles i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed yn erbyn asesiadau'r adran gwaith a phensiynau a phrosesau gwneud penderfyniad sydd yn aml yn gwaethygu cyflyrau iechyd meddwl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
1 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7028 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Cyd Adolygiad Thematig Arolygiaeth Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol.
2. Yn nodi ymhellach y nifer gynyddol o atgyfeiriadau i'r timau iechyd meddwl cymunedol ledled Cymru.
3. Yn cydnabod yr angen i sicrhau cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd y corff a gwasanaethau iechyd meddwl;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella’r cymorth a ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol a gwella’r mynediad at y cymorth hwnnw, gan gynnwys:
a) parhau i gynyddu’r gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at ddiwedd tymor y Cynulliad, yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad o wariant yn 2019;
b) sicrhau bod trefniadau ar waith i ymateb i argyfyngau iechyd meddwl bob awr o bob dydd ym mhob un o’r adrannau achosion brys mawr;
c) gweithio ar frys gyda’r byrddau iechyd i wella cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth a staff; a
d) codi ymwybyddiaeth ynghylch mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl.
e) sicrhau bod timau iechyd meddwl cymunedol yn cysylltu â gwasanaethau hawliau lles i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed yn erbyn asesiadau'r adran gwaith a phensiynau a phrosesau gwneud penderfyniad sydd yn aml yn gwaethygu cyflyrau iechyd meddwl.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
4 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.11
Dechreuodd yr eitem am 18.15
NDM7027 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Pwy sy'n elwa ar dai cymdeithasol?
Daeth y cyfarfod i ben am 18.31
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 30 Ebrill 2019